Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 5:1-14

2 Brenhinoedd 5:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o’r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro’n wael gan glefyd heintus ar y croen. Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi’n gweithio fel morwyn i wraig Naaman. A dyma hi’n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai’r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.” Aeth Naaman i rannu gyda’i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi’i ddweud. A dyma frenin Syria’n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly i ffwrdd â Naaman. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e. A dyma fe’n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i’n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o’r afiechyd sydd ar ei groen.” Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo’i ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu’r dyn yma mae e wedi’i anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!” Ond pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo’i ddillad, dyma fe’n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.” Felly dyma Naaman yn mynd, gyda’i feirch a’i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus. A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen, a bydd dy groen di’n gwella a byddi’n lân eto.” Ond dyma Naaman yn gwylltio a mynd i ffwrdd. “Rôn i’n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae’r afiechyd, a’m gwella i. A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus yn well na holl afonydd Israel gyda’i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer. Ond dyma’i weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai’r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi’i wneud o? Y cwbl mae e’n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi’n lân.’” Felly dyma fe’n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma’i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.

2 Brenhinoedd 5:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn ŵr gwahanglwyfus. Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman. Dywedodd wrth ei meistres, “Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf.” Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, “Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel.” Ac meddai brenin Syria, “Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel.” Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pâr o ddillad. Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, “Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf.” Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, “Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae.” Pan glywodd Eliseus, gŵr Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, “Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel.” Felly daeth Naaman, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll o flaen drws tŷ Eliseus, a gyrrodd Eliseus neges allan ato: “Dos ac ymolchi saith waith yn yr Iorddonen, ac adferir dy gnawd yn holliach iti.” Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, “Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf. Onid yw Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn ymolchi ynddynt hwy, a dod yn lân?” Trodd, a mynd i ffwrdd yn ei ddig. Ond daeth ei weision ato a dweud wrtho, “Petai'r proffwyd wedi dweud rhywbeth mawr wrthyt, oni fyddit wedi ei wneud? Onid rheitiach felly gan mai dim ond ‘Ymolch a bydd lân’ a ddywedodd?” Ar hynny fe aeth i lawr, ac ymdrochi saith waith yn yr Iorddonen yn ôl gair gŵr Duw, a daeth ei gnawd yn lân eto fel cnawd bachgen bach.

2 Brenhinoedd 5:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus. A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman. A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf. Ac un a aeth ac a fynegodd i’w arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llances o wlad Israel. A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad. Ac efe a ddug y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, Yn awr pan ddêl y llythyr hwn atat ti, wele, anfonais atat ti Naaman fy ngwas, fel yr iacheit ef o’i wahanglwyf. A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai DUW ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i. A phan glybu Eliseus gŵr DUW rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir. Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus. Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn dicter. A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân? Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr DUW: a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.