Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 5

5
Iacháu Naaman, pennaeth byddin Syria
1Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o’r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro’n wael gan glefyd heintus ar y croen.
2Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi’n gweithio fel morwyn i wraig Naaman. 3A dyma hi’n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai’r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.” 4Aeth Naaman i rannu gyda’i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi’i ddweud. 5A dyma frenin Syria’n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.”
Felly i ffwrdd â Naaman. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e. 6A dyma fe’n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i’n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o’r afiechyd sydd ar ei groen.” 7Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo’i ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu’r dyn yma mae e wedi’i anfon ata i?#Deuteronomium 32:39 Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!” 8Ond pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo’i ddillad, dyma fe’n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.”
9Felly dyma Naaman yn mynd, gyda’i feirch a’i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus. 10A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen, a bydd dy groen di’n gwella a byddi’n lân eto.” 11Ond dyma Naaman yn gwylltio a mynd i ffwrdd. “Rôn i’n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae’r afiechyd, a’m gwella i. 12A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus yn well na holl afonydd Israel gyda’i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer. 13Ond dyma’i weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai’r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi’i wneud o? Y cwbl mae e’n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi’n lân.’” 14Felly dyma fe’n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma’i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.
15Yna dyma fe, a’i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Safodd o’i flaen a dweud wrtho, “Dw i’n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?” 16Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dw i’n ei wasanaethu yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Naaman bwyso arno roedd yn dal i wrthod. 17Yna yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn iddo, “Os wnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi – digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i’r ARGLWYDD. 18Er, mae yna un peth bach dw i’n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e’n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.” 19A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre’n dawel dy feddwl.”
Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell, 20pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau’n rhy hawdd i’r Syriad yna, Naaman, drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i’n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.” 21Felly dyma fe’n brysio ar ôl Naaman.
Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, daeth i lawr o’i gerbyd i’w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?” 22A dyma Gehasi yn ateb, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f’anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?” 23“Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe’n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. A dyma fe’n eu rhoi nhw i ddau was i’w cario i Gehasi. 24Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi’n cymryd yr arian a’r dillad ganddyn nhw a’u cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe’n anfon y dynion i ffwrdd.
25Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Ble wyt ti wedi bod Gehasi?” A dyma fe’n ateb, “Dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.” 26A dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Rôn i wedi mynd gyda ti yn yr ysbryd pan ddaeth y dyn i lawr o’i gerbyd i dy gyfarfod di. Wnest ti ddim derbyn arian i brynu dillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion? 27Bydd y clefyd heintus roedd Naaman yn dioddef ohono arnat ti a dy deulu am byth!”
Aeth Gehasi i ffwrdd oddi wrtho, ac roedd y clefyd ar ei groen yn wyn fel yr eira.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 5: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda