2 Brenhinoedd 5:1
2 Brenhinoedd 5:1 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o’r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro’n wael gan glefyd heintus ar y croen.
Rhanna
Darllen 2 Brenhinoedd 52 Brenhinoedd 5:1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn ŵr gwahanglwyfus.
Rhanna
Darllen 2 Brenhinoedd 52 Brenhinoedd 5:1 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.
Rhanna
Darllen 2 Brenhinoedd 5