2 Corinthiaid 12:5-10
2 Corinthiaid 12:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hwnnw yr wyf yn ymffrostio; amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, ar wahân i'm gwendidau. Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ffôl, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf. A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu. Ynglŷn â hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf. Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf. Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
2 Corinthiaid 12:5-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun – dim ond am beth sy’n dangos mod i’n wan. Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio’r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i’n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i – mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i’w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i’n ei wneud neu’n ei ddweud. Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi’n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i’m ffistio i. Dw i wedi pledio ar i’r Arglwydd ei symud, do, dair gwaith, ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i’n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i’n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i’n hapus iawn i frolio am beth sy’n dangos mod i’n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi. Ydw, dw i’n falch fy mod i’n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau’n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i’n wan, mae gen i nerth go iawn.
2 Corinthiaid 12:5-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid. Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf. Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchefid. Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi. Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.