Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 12

12
Gweledigaethau a Datguddiadau
1Y mae'n rhaid imi ymffrostio. Ni wna ddim lles, ond af ymlaen i sôn am weledigaethau a datguddiadau a roddwyd i mi gan yr Arglwydd. 2Gwn am ddyn yng Nghrist a gipiwyd, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, i fyny i'r drydedd nef—ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod. 3Gwn i'r dyn hwnnw gael ei gipio i fyny i Baradwys—ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod. 4Ac fe glywodd draethu'r anhraethadwy, geiriau nad oes hawl gan neb dynol i'w llefaru. 5Am hwnnw yr wyf yn ymffrostio; amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, ar wahân i'm gwendidau. 6Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ffôl, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf. 7A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd#12:7 Yn ôl darlleniad arall, ei glywed gennyf, ac o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi. Rhag i mi ymddyrchafu, felly, rhoddwyd. draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu. 8Ynglŷn â hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf. 9Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf. 10Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
Gofal Paul dros Eglwys Corinth
11Euthum yn ffôl, ond chwi a'm gyrrodd i hyn. Oherwydd dylaswn i gael fy nghanmol gennych chwi. Nid wyf fi yn ôl mewn dim i'r archapostolion hyn, hyd yn oed os nad wyf fi'n ddim. 12Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith gyda dyfalbarhad cyson, mewn arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau nerthol. 13Ym mha beth y bu'n waeth arnoch chwi na'r eglwysi eraill, ond yn hyn, na fûm i yn faich arnoch chwi? Maddeuwch imi y camwedd hwn. 14Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant. 15Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai? 16Ond, a chaniatáu na fûm i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell. 17A fanteisiais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a anfonais atoch? 18Deisyfais ar Titus fynd atoch, ac anfonais ein brawd gydag ef. A fanteisiodd Titus arnoch? Onid ymddwyn yn yr un ysbryd a wnaethom ni, ac onid dilyn yr un llwybrau?
19A ydych yn tybio drwy'r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chwi yr ydym? Gerbron Duw yr ydym yn llefaru, yng Nghrist, a'r cwbl er adeiladaeth i chwi, fy nghyfeillion annwyl. 20Oherwydd y mae arnaf ofn na chaf chwi, pan ddof, fel y dymunwn ichwi fod, ac na'm ceir innau chwaith fel y dymunech chwi imi fod. Yr wyf yn ofni y bydd cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, difenwi, clebran, ymchwyddo, terfysgu. 21Yr wyf yn ofni rhag i'm Duw, pan ddof drachefn, fy narostwng o'ch blaen, a rhag imi orfod galaru dros lawer a oedd wedi pechu gynt, a heb edifarhau am yr amhurdeb a'r anfoesoldeb rhywiol a'r anlladrwydd a wnaethant.

Dewis Presennol:

2 Corinthiaid 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda