1 Timotheus 6:6-16
1 Timotheus 6:6-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae byw’n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni’n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol. Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny. Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy’n difetha ac yn dinistrio’u bywydau. Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw’u hunain. Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn. Mae’r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy’r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di’n credu o flaen llawer o dystion. Dw i’n rhoi’r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy’n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat. Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i’w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. Bydd hynny’n digwydd pan mae Duw’n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy’n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! Fe ydy’r unig un sy’n anfarwol yn ei hanfod. Mae’n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi’i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!
1 Timotheus 6:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol. A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono. Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny. Y mae'r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy'n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth. Oherwydd gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian, ac wrth geisio cael gafael ynddo crwydrodd rhai oddi wrth y ffydd, a'u trywanu eu hunain ag arteithiau lawer. Ond yr wyt ti, ŵr Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder. Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer. Yng ngŵydd Duw, sy'n rhoi bywyd i bob peth, ac yng ngŵydd Crist Iesu, a dystiodd i'r un gyffes lew o flaen Pontius Pilat, yr wyf yn dy gymell i gadw'r gorchymyn yn ddi-fai a digerydd hyd at ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist, a amlygir yn ei amser addas gan yr unig Bennaeth bendigedig, Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi. Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.
1 Timotheus 6:6-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.