Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 6

6
1Dylai Cristnogion sy’n gaethweision barchu eu meistri, fel bod pobl ddim yn dweud pethau drwg am Dduw a beth dŷn ni’n ei ddysgu. 2A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy’n Gristnogion am eu bod nhw’n frodyr. Fel arall yn hollol – dylid gweithio’n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy’n elwa o’u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw.
Cariad at arian
Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd.
3Mae rhai’n dysgu pethau sydd ddim yn wir, ac sy’n hollol groes i beth ddysgodd ein Harglwydd Iesu Grist – sut mae byw fel mae Duw am i ni fyw. 4Mae’n amlwg fod person felly yn llawn ohono’i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae’n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae’n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o’i gilydd. 5Mae’n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi’u llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy’n wir. Dydy byw’n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw.
6Ond mae byw’n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni’n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol. 7Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. 8Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny. 9Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy’n difetha ac yn dinistrio’u bywydau. 10Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw’u hunain.
Gorchymyn Paul i Timotheus
11Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn. 12Mae’r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy’r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di’n credu o flaen llawer o dystion. 13Dw i’n rhoi’r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy’n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat.#gw. Ioan 18:37-38 14Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i’w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. 15Bydd hynny’n digwydd pan mae Duw’n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy’n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! 16Fe ydy’r unig un sy’n anfarwol yn ei hanfod. Mae’n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi’i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!
17Dwed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy’r un i ymddiried ynddo. Mae’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau. 18Dwed wrthyn nhw am ddefnyddio’u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser. 19Wrth wneud hynny byddan nhw’n casglu trysor go iawn iddyn nhw’u hunain – sylfaen gadarn i’r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.
20Timotheus, cadw’n saff bopeth mae Duw wedi’i roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a’r math nonsens dwl sy’n cael ei alw ar gam yn ‘wybodaeth’. 21Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy’n wir.
Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol Duw!

Dewis Presennol:

1 Timotheus 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda