Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 8:1-18

1 Samuel 8:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i’w feibion. Joel oedd enw’r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba. Ond doedden nhw ddim yr un fath â’u tad. Roedden nhw’n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg. Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod â’i gilydd a mynd i weld Samuel yn Rama. Medden nhw wrtho, “Ti’n mynd yn hen a dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i’n harwain, yr un fath â’r gwledydd eraill i gyd.” Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe’n gweddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae’r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw’n ei wrthod; fi ydy’r un maen nhw wedi’i wrthod fel eu brenin. Mae’r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti’n cael yr un driniaeth. Felly gwna beth maen nhw’n ofyn. Ond rhybuddia nhw’n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.” Felly dyma Samuel yn rhannu gyda’r bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrtho. Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a’u gwneud nhw’n farchogion i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo. Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e ac yn casglu’r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel. Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo. Bydd yn cymryd eich caeau, a’ch gwinllannoedd a’ch gerddi olewydd gorau, a’u rhoi i’w swyddogion. Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o’ch grawn a’ch gwin a’i roi i weision y palas a’r swyddogion eraill. Bydd yn cymryd eich gweision a’ch morynion, eich gwartheg gorau a’ch asynnod, i weithio iddo fe’i hun. A bydd yn cymryd un o bob deg o’ch defaid a’ch geifr. Byddwch chi’n gaethweision iddo! Bryd hynny byddwch chi’n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”

1 Samuel 8:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid. Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba. Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn. Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama, a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.” Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, “Rho inni frenin i'n barnu”, a gweddïodd Samuel ar yr ARGLWYDD. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt. Yn union fel y gwnaethant â mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwnânt â thithau. Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt.” Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo, a dweud, “Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd. Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau. Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau; cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision; bydd yn degymu'ch ŷd a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision; ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun. Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo. A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw.”

1 Samuel 8:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel. Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba. A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn. Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama, Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd. A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti. Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt. A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo. Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision. Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw.