Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 8

8
Y Bobl yn Gofyn am Frenin
1Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid. 2Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba. 3Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn. 4Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama, 5a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.” 6Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, “Rho inni frenin i'n barnu”, a gweddïodd Samuel ar yr ARGLWYDD. 7Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt. 8Yn union fel y gwnaethant â mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwnânt â thithau. 9Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt.”
10Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo, 11a dweud, “Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd. 12Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau. 13Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau; 14cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision; 15bydd yn degymu'ch ŷd a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision; 16ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych#8:16 Felly Groeg. Hebraeg, eich gwŷr dethol. gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun. 17Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo. 18A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw.”
19Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. “Na,” meddent, “y mae'n rhaid inni gael brenin, 20i ni fod yr un fath â'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau.” 21Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD. 22Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt.” A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Ewch adref bob un.”

Dewis Presennol:

1 Samuel 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd