Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 8

8
1Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel. 2Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba. 3A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn. 4Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama, 5Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.
6A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd. 7A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. 8Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti. 9Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.
10A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo. 11Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: 12Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. 13A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. 14Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision. 15Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. 16Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. 17Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. 18A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.
19Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni: 20Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni. 21A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr Arglwydd. 22A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

Dewis Presennol:

1 Samuel 8: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda