1 Samuel 16:15-23
1 Samuel 16:15-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae’n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di. Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy’n canu’r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e’n canu’r delyn ac yn gwneud i ti deimlo’n well.” Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy’n canu’r delyn yn dda, a dewch ag e yma.” A dyma un o’r dynion ifanc yn dweud, “Dw i’n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy’n dda ar y delyn. Mae e’n filwr dewr, yn siaradwr da, mae’n fachgen golygus ac mae’r ARGLWYDD gydag e.” Felly dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda’r defaid.” A dyma Jesse’n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a’u hanfon gyda’i fab Dafydd at Saul. Aeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi’n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario’i arfau iddo. Anfonodd Saul neges at Jesse yn gofyn, “Plîs gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i’n hapus iawn gydag e.” Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a’i chanu. Byddai hynny’n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo’n well; a byddai’r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.
1 Samuel 16:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd gweision Saul wrtho, “Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat. O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am ŵr sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well.” Dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf.” Atebodd un o'r gweision, “Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n ŵr dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef.” Anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud, “Anfon ataf dy fab Dafydd sydd gyda'r defaid.” Cymerodd Jesse asyn gyda baich o fara, costrel o win, a myn gafr, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul. Aeth Saul yn hoff iawn o Ddafydd pan ddaeth i weini ato, a gwnaeth ef yn gludydd arfau iddo. Anfonodd Saul at Jesse a dweud, “Yr wyf am i Ddafydd gael aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd yr wyf wrth fy modd gydag ef.” Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwythâd i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.
1 Samuel 16:15-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth DDUW sydd yn dy flino di. Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth DDUW arnat ti, yna iddo ef ganu â’i law; a da fydd i ti. A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi. Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r ARGLWYDD sydd gydag ef. Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda’r praidd. A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul. A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef. A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg. A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth DDUW ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â’i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.