1 Samuel 16:10-12
1 Samuel 16:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth Jesse â saith o’i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o’r rhain.” Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae’r lleiaf ar ôl. Mae e’n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i’w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.” Felly dyma Jesse’n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â’r olew.”
1 Samuel 16:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.” Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.” Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.”
1 Samuel 16:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD y rhai hyn. Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma. Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe.