Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 12:14-26

1 Corinthiaid 12:14-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dydy’r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i’n llaw dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai’r droed honno yn peidio bod yn rhan o’r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i’n llygad dw i ddim yn rhan o’r corff,” fyddai hi’n peidio bod yn rhan o’r corff wedyn? Na! Fyddai’r corff ddim yn gallu clywed petai’n ddim byd ond llygaid! A phetai’n ddim byd ond clustiau, sut fyddai’n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda. Petai pob rhan o’r corff yr un fath â’i gilydd, fyddai’r corff ddim yn bod! Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff. Dydy’r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy’r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!” Yn hollol fel arall – mae’r rhannau hynny o’r corff sy’n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol! Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i’w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy’n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi’r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. Felly, os ydy un rhan o’r corff yn dioddef, mae’r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae’r corff i gyd yn rhannu’r llawenydd.