Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.
Darllen 1 Corinthiaid 12
Gwranda ar 1 Corinthiaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 12:14-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos