Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 12

12
Doniau Ysbrydol
1Ynglŷn â doniau ysbrydol, gyfeillion, nid wyf am ichwi fod yn anwybodus yn eu cylch. 2Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid. 3Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, “Melltith ar Iesu!” Ac ni all neb ddweud, “Iesu yw'r Arglwydd!” ond trwy yr Ysbryd Glân.
4Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi; 5ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi; 6ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. 7Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb. 8Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd; 9i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd; 10i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau. 11A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân.
Llawer o Aelodau mewn Un Corff
12Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd. 13Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed. 14Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer. 15Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. 16Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. 17Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? 18Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda. 19Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff? 20Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff. 21Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di”, na'r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.” 22I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol; 23a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini â pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol. 24Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch, 25rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd. 26Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
27Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod. 28Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau. 29A yw pawb yn apostol? A yw pawb yn broffwyd? A yw pawb yn athro? A yw pawb yn cyflawni gwyrthiau? 30A oes gan bawb ddoniau iacháu? A yw pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn dehongli? 31Ond rhowch eich bryd ar y doniau gorau.
Cariad
Ac yr wyf am ddangos i chwi ffordd ragorach fyth.

Dewis Presennol:

1 Corinthiaid 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd