Psalmau 57
57
Y Psalm. LVII. Cywydd Llosgyrnog.
1Dod drugaredh ryfedh i’m rhaid;
O Dduw orig, mae ymdhiriaid
Fy enaid ynod finnau:
A dod gysgod dy deg esgyll,
Y’mhob caledi, honni hyll,
Trythyll ŷnt a’u hareithiau.
2Ar Dduw crïaf, bid uchaf Bôr;
Duw a’m perffeidhia, fwyaf Iôr,
A rhagor o anrhegau.
Denfyn ef o nef i ’n cadw ni;
Ceidwad rhag llyngcu wedi
Yw Geli a ’n Duw golau.
3Mwynedh a gwiredh eu gyrrai
I’m henaid y pryd y mynnai,
A orwedhai ’n îs radhau
4Y’mysg y llewod, rwydhnod rus,
A ’r cynhwynol ŵr cynhennus,
A ’r rhai astrus arwestrau.
Llyma y dynion llym eu dannedh,
Syth‐waew anial saethau unwedh,
Y cledh yw eu tafod clau.
5Dyrchafer ef uwch y nefoedh
A gogoniant moliant miloedh, —
Uwch tiroedh — uwch y tyrau.
6Rhwyd yma taenwyd a’m tynnodh,
I’m sodlau maglau a’m mwyglodh;
Gŵyrodh fy enaid gorau.
Ffosydh atgas im’ glodhiasont,
Yn y rhei ’ny, er a hunont,
Y syrthiasont, swrth eisiau.
7Parawd y ’nghoelwawd yw ’nghalon,
Parawd yw y tafawd it’, Iôn,
Waith union, a thannau.
8Deffro fy urdhas, da ras drwsiad,
Deffro ugeinwaith, deffro ganiad,
Bwriad yw codi y borau.
9Wrth genhedloedh miloedh molaf,
O wedh cynnil i Dduw canaf,
Adholaf ef sydh olau.
10Da air enwi yw dy rinwedh,
A’th wir union, a’th wirionedh,
Eilwedh uwch y cymmylau.
11Dyrchafer ef uwch y nefoedh
A gogoniant moliant miloedh, —
Uwch tiroedh — uwch y tyrau.
Dewis Presennol:
Psalmau 57: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.