Psalmau 56
56
Y Psalm. LVI. Englyn Proest Cyfnewidiog.
1Bydh drugarog, doniog Dad,
Rhag fy llyngcu, haedhu hud,
Beunydh o ’r rheibydh yn rhod,
A gwaith awydh gaethiwed.
2Fy ngwilwyr, bennwyr, beunydh
A’m llyngcant, rhyfeliant fodh:
Llawer dyn i’m herbyn, medh;
Helpia fi, gorucha’ gradh.
3A phan ofnais drais gwr drud,
Gobeithiais i ynot tir Tad:
Moliannaf Dduw, mawl hynod
I’w eiriau, gorau gweryd.
4I Dduw, Arglwydh hylwydh, hen,
Ymdhiriedaf, gweithiaf gan:
Nid ofnaf gwaelaf galon,
Na dim a wnelo un dyn.
5Gwarcha ’ngeiriau, beiau beth,
I’m herbyn, Duw, bydhyn’ byth:
Eu medhyliau, geiriau gwth,
I’m cablu, ni fu y fath.
6Ymgasglant, edrychant drwyth,
Ol fy sodlau, geiriau gwaeth;
Yspïant, gwiliant yw gwaith
Fy enaid a fu annoeth.
7Tybiant y dihangant bob dydh
Yn oerweilch yw hanwiredh:
Ti a dhofi, Celi cudh,
I’th lid dhynion feilchion fodh.
8Ti rifaist, cedwaist, mi a’u caf,
Ddagrau ’nolur, llafur llef;
Y rhai a wylais a’u rhif
Sy ’n dy lyfrau gorau gof.
9Pan wedhïwyf rhwyf pe rhon’,
Arswyd gwelwyd i’m gelyn:
Ffo oedh raid yw ffiaidh ran;
Wyd gyda mi, Geli, gwn.
10Moliannaf Dduw, mawl hynod
I’w eiriau, gorau gweryd:
Mawl ir Arglwydh rhwydh y rhed
A geiriau o wir gariad.
11I Dduw, Arglwydh hylwydh, hên,
Ymdhiriedaf, gweithiaf gan:
Nid ofnaf gwaelaf galon,
Na dim a allo un dyn.
12I Dduw talaf adhewid
A moliant, nid medhiant mud,
13Ammod hir, am it’ wared
F’enaid rhag angau funyd.
Deliaist erioed fy nhroed rhan
Rhag llithro na syrthio ’n syn,
I rodio fry ger dy fron
A llewych gwyr byw llawen.
Dewis Presennol:
Psalmau 56: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.