Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 31

31
Y Psalm. XXXI. Cywydd Deuair Hirion.
1Arglwydh ynod, lawnglod lais,
Erioed yr ymdhiriedais;
Na ad im’ gaffael gw ’radwydh,
O’th gyfiawnder, hyder rhwydh.
Brysia, gwared, tynged teg,
2A gwrando yn gywreindeg;
Imi, heb wad, yma bydh
Graig gadarn ar gẁr coedydh,
A’m castell i, a’m cost llon,
I’m cadw rhag dim hoccedion.
3Ydwyt fy nghraig, ffelaig ffydh,
Cedernid a’m cadarnwŷdh;
T’wysa, er d’enw, at oesi,
Gwirion fodh, ag arwain fi.
4Tyn, er hyn, wyf tan y rhwyd,
Oes hyder, im’ a osodwyd;
Arab parodfab prydferth,
Oh fwyn Iôr, ydwyt fy nerth.
5I’th law, Geli, Ri, wrth raid,
F’anwyl, gorch’mynaf f’enaid;
Prynaist fi, prin oes hyd fedh,
Oh deg ran! Duw gwirionedh.
6Cas gan i, Duw, cais gwan dôn,
Goeg dwyll y rhai gwag, deillion;
Can’s ir Arglwydh, llwydh o ’r llais,
Iôr odiaeth, ymdhiriedais.
7O’th drugaredh cyfedh caf,
Llon fodhus, llawen fydhaf;
Gwelaist, newidiaist y nôd,
Drwy wella fy holl drallod;
A’m henaid, gowlaid gwiwlym,
Adwaenyd mewn adfyd ym.
8Ni’m ceuaist, dodaist yn dỳn,
O gilwg, yn llaw ’r gelyn;
Gosodaist ’ megis hedydh,
A rho’ist fy neudroed yn rhydh.
9Bydh drugarog, rhywiog, rhwydh,
O wirglaim, wrthyf, Arglwydh;
Can’s mewn blinder, llererydh
Fy llygaid, f’enaid, a fydh;
Dryllia fy mola i’m ais
O dholur a fedhyliais.
10Fy mywyd o dristyd draw,
Trwy alaeth, sydh yn treuliaw;
Y blynydhoedh blin oedhynt,
A galar hir, gwael yw ’r hynt;
Yn ol fe ballodh fy nerth
Yn anfad, o’m poen anferth;
A’m hesgyrn oedh gedyrn gynt,
O b’ai edrych, a bydrynt.
11Bûm yn dhirmig, singrig son,
Gwael anhap, i’m gelynion;
Nodwyd fi yn enwedig
I’m cym’dogion digon dig;
Bûm i yn ofni fy nyn
O’m hoed, a phawb a’m hedwyn;
Odhiar heol, dynol dôn,
Hwy giliant, pan i’m gwelon’.
12Mewn ing yr wyf, mewn anghof,
Mawr draws gamp, fal marw dros gof;
Wyf debig, man lle trigwn,
I lestr candryll, hyll yw hwn.
13Clywais gablair, llawnair llon,
A grym orig, gwyr mawrion;
Cyngor i’m herbyn cangawg,
Ban f’ai rhai a’u hofnai rhawg;
A chyd‐sisial, fedhal foes,
Ddawn funud, i dhwyn f’einioes.
14Ynod, Arglwydh, da enwi,
O serch, ymdhiriedais i;
D’wedais a llefais, Iôr llwyd,
Yn odiaeth, Fy Nuw ydwyd.
15Fy amser didrymder draw,
O’th olud, sydh i’th dhwylaw:
Gwared draw rhag dwylaw dyn,
Gwaelwas imi yw ’r gelyn;
A rhag dynion gweigion gant,
O ledwg, a’m herlidiant.
16Tywyned d’wyneb tyner
Ar dy was, mae ’n urdhas, Nêr;
Ac achub fi, gwych heb fedh,
Dro gwirion, o’th drugaredh.
17Na’m gw ’radwydher, Nêr, a’m nad,
Is oerni; gelwais arnad:
Dinystrir enwir annoeth
Yn fud ir pwll, oerdwll doeth.
18Ac yn fud, drwy hud y rhawg,
Cladher genau celwydhawg;
Rai creulon beilchion ir byd,
Yn dadwrdh, sydh yn d’wedyd
Yn dhigasog, enwog iawn,
Cofus, yn erbyn ’ kyfiawn.
19Cedwaist fawr drysawr, Duw Dri,
Iaith dhyfn, ir sawl sy’th ofni;
A’th ymdhiriaid enaid, Iôn,
Dawnus, o flaen plant dynion!
20Rhag balchder, ansyberwaith,
Yn d’ŵydh eu cedwi, iawn daith;
Dirgel‐gedwi, bwri i byll,
Dy bobl sydh yn dy bebyll,
Rhag ymryson, garwdon gau,
A fedr y drwg dafodau.
21Bendiger ein Nêr, ei nawdh
Yn gyson im’ danghosawdh; —
Caredigwedh rhyfedh rhawg,
Iawnwyrth, mewn dinas enwawg.
22D’wedais, hysbys, drwy frys drwg,
Iaith wael, Bwriwyd fi o’th olwg:
Fy ngwedhi, pan y crïais,
Fy llef a glywaist — fy llais.
23Cerwch yr Arglwydh cywraint,
Y rhai ffydhlon, son, a’i saint:
Ceidw hwy; ond mawr obrwya
Feilchion a dyblygion bla.
24A obeithio Duw byth dhi dawl,
Dan wyrth, bydhed yn nerthawl;
Gwnaiff yn hylwydh, o rwydh rad,
Yn ystig galon wastad.

Dewis Presennol:

Psalmau 31: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda