Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 30

30
Y Psalm. XXX. Clogyrnach.
1Tydi, Arglwydh gwiwrwydh, goraf,
O fawr hoywgerdh, a fawrygaf;
Cwnnaist, rhag cwynion,
Uwchlaw, uchel Iôn,
Gelynion, gwael anaf.
Nid ydynt draws, oernaws arnaf:
2F’eurgledh, Croywior, f’Arglwydh, crïaf
Arnat o oernych;
Rhodhaist yn rhwydhwych
Fi o nych, Duw fy Naf.
3Arglwydh, dygaist, gwiliaist, gwelaf,
O ’r bedh f’enaid wiwraid, araf;
Wyf syw byw heb au,
Rhag a êl, gêl gau,
I ’r pyllau, lawr pellaf.
4Cenwch, y saint, i Dduw canaf,
Diolchwch, a mawl diolchaf;
Weithian gan gynnes,
I’w sanctaidh ŵraidh wres,
I’m cyffes, mi a’i koffaf,
5Byr y trig ci dhig a dhygaf;
O’i fodh bywyd, gwiwfyd, a gaf;
Wylaw nos, lawn ŵydh, —
Bu rwydh boreudhydh
Llawenydh o ’r llawnaf.
6Ac i’m gwỳnfyd, diwyd d’wedaf,
Ni’m cynhyrfir, gwir a garaf;
7O’th olud gwnaethost, a’th alaf,
Im’ gadernid, rhydid rhodiaf;
Bu ennyd boenus,
’Gudh dwyrudh dirus,
Drwy ustus bûm dristaf.
8Eurgledh llafar, Arglwydh llefaf;
A gwaedh awydh, Duw, gwedhïaf:
9Pa les sydh dan draed o gwaedaf?
I ’r bedh gànwedh o disgynaf?
Oes mawl îs y min?
It’ hawl at hwylwin
O ’r pridhin, Iôr prudhaf?
A draethir dy wir, Iôr dewraf?
10Gwrando dyner Eurner arnaf:
Trwy gur trugaredh,
Gwared fi a gwiredh,
Oferedh a fwriaf.
11Tro’ist fy llafar galar gwelaf
I ’r llawenydh, Duw, o ’r llawnaf;
Rhydh Dduw i’m rhodhwch,
Disengl i’m cenglwch,
Digrifwch Duw gryfaf.
12Ac a’m tafawd maelwawd molaf
Di yn hoff wiwdeg, Duw, ni pheidiaf;
Fy Nuw, fy Newin,
Dybryd it’, dibrin,
Eginin mawl ’ ganaf.

Dewis Presennol:

Psalmau 30: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda