Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin. Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel: “Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: “Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal.” Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw. Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio â bod yn ras. Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill, fel y mae'n ysgrifenedig: “Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth, llygaid i beidio â gweld, a chlustiau i beidio â chlywed, hyd y dydd heddiw.” Ac y mae Dafydd yn dweud: “Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo, ac yn groglath i'w cosbi; tywyller eu llygaid iddynt beidio â gweld, a gwna hwy'n wargrwm dros byth.”
Darllen Rhufeiniaid 11
Gwranda ar Rhufeiniaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 11:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos