Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;
yn dy drugaredd mawr, tro ataf.
Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;
y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.
Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;
rhyddha fi o achos fy ngelynion.
Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,
fy ngwarth a'm cywilydd;
yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.
Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,
ac yr wyf mewn anobaith;
disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,
ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.
Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,
a gwneud imi yfed finegr at fy syched.
Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,
yn fagl i'w cyfeillion.
Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,
a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.
Tywallt dy ddicter arnynt,
a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.
Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,
heb neb yn byw yn eu pebyll,
oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,
a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.
Rho iddynt gosb ar ben cosb;
na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.
Dileer hwy o lyfr y rhai byw,
ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.
Yr wyf fi mewn gofid a phoen;
trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.
Moliannaf enw Duw ar gân,
mawrygaf ef â diolchgarwch.
Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych,
neu fustach ifanc â chyrn a charnau.
Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau;
chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus,
ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu,
y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo.
Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion,
ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda;
byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu,
bydd plant ei weision yn ei hetifeddu,
a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.