Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 47

47
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.
1Curwch ddwylo, yr holl bobloedd;
rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd.
2Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy,
yn frenin mawr dros yr holl ddaear.
3Fe ddarostwng bobloedd odanom,
a chenhedloedd o dan ein traed.
4Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni,
balchder Jacob, yr hwn a garodd.
Sela
5Esgynnodd Duw gyda bloedd,
yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.
6Canwch fawl i Dduw, canwch fawl;
canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
7Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear;
canwch fawl yn gelfydd.
8Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd,
y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull
gyda phobl Duw Abraham;
oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear—
fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.

Dewis Presennol:

Y Salmau 47: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd