Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 46

46
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora, ar Alamoth. Cân.
1Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni,
yn gymorth parod mewn cyfyngder.
2Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud
ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
3er i'r dyfroedd ruo a therfysgu
ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.
Sela
4Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw,
preswylfa sanctaidd y Goruchaf.
5Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi;
cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.
6Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;
pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.
7Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yn gaer i ni.
Sela
8Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD,
fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;
9gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear,
dryllia'r bwa, tyr y waywffon,
a llosgi'r darian â thân.
10Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw,
yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd,
yn ddyrchafedig ar y ddaear.
11Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yn gaer i ni.
Sela

Dewis Presennol:

Y Salmau 46: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd