Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 4

4
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. I Ddafydd.
1Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder!
Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi;
bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.
2Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth,
ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd?
Sela
3Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun;
y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno.
4Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch â phechu;
er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw.
Sela
5Offrymwch aberthau cywir,
ac ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.
6Y mae llawer yn dweud, “Pwy a ddengys i ni ddaioni?”
Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD.
7Rhoddaist fwy o lawenydd yn fy nghalon
na'r eiddo hwy pan oedd llawer o ŷd a gwin.
8Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu,
oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.

Dewis Presennol:

Y Salmau 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd