Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 3

3
Salm. I Ddafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom.
1 ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!
Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,
2a llawer yn dweud amdanaf,
“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”
Sela
3Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,
yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.
4Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,
ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.
Sela
5Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,
ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
6Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl
yn ymosod arnaf o bob tu.
7Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw.
Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb,
ac yn torri dannedd y drygionus.
8I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth;
bydded dy fendith ar dy bobl.
Sela

Dewis Presennol:

Y Salmau 3: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda