Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 39

39
I'r Cyfarwyddwr: i Jeduthun. Salm. I Ddafydd.
1Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd,
rhag imi bechu â'm tafod;
rhof ffrwyn ar fy ngenau,
pan fo'r drygionus yn f'ymyl.”
2Bûm yn fud a distaw,
cedwais yn dawel, ond i ddim diben;
gwaethygodd fy mhoen,
3llosgodd fy nghalon o'm mewn;
wrth imi fyfyrio, cyneuodd tân
a thorrais allan i ddweud,
4ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd,
a beth yw nifer fy nyddiau;
dangos imi mor feidrol ydwyf.
5Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,
ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;
yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,
Sela
6“ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;
yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra#39:6 Tebygol. Hebraeg, ofer y cynhyrfa ac y pentyrra.,
ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.
7“Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?
Y mae fy ngobaith ynot ti.
8Gwared fi o'm holl droseddau,
paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.
9Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,
oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;
yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.
11Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,
yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;
yn wir, chwa o wynt yw pawb.
Sela
12“Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,
a rho glust i'm cri;
paid â diystyru fy nagrau.
Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,
a phererin fel fy holl hynafiaid.
13Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenydd
cyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr.”

Dewis Presennol:

Y Salmau 39: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda