Y Salmau 38
38
Salm. I Ddafydd, er coffadwriaeth.
1 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid,
ac na chosba fi yn dy ddig.
2Suddodd dy saethau ynof,
y mae dy law yn drwm arnaf.
3Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,
nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.
4Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,
y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.
5Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawni
oherwydd fy ffolineb.
6Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr,
ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd.
7Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn,
ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
8Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr,
ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon.
9O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti,
ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt.
10Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu,
a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.
11Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla,
ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw.
12Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau,
a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistr
ac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd.
13Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,
ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.
14Bûm fel un heb fod yn clywed,
a heb ddadl o'i enau.
15Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais;
ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw.
16Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegid
i'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.”
17Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio,
ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser.
18Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd,
ac yn pryderu am fy mhechod.
19Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos#38:19 Tebygol. Hebraeg, yw fy ngelynion byw.,
a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasáu ar gam,
20yn talu imi ddrwg am dda
ac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni.
21Paid â'm gadael, O ARGLWYDD;
paid â mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw.
22Brysia i'm cynorthwyo,
O Arglwydd, fy iachawdwriaeth.
Dewis Presennol:
Y Salmau 38: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004