Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 144

144
I Ddafydd.
1Bendigedig yw yr ARGLWYDD, fy nghraig;
ef sy'n dysgu i'm dwylo ymladd,
ac i'm bysedd ryfela;
2fy nghâr a'm cadernid,
fy nghaer a'm gwaredydd,
fy nharian a'm lloches,
sy'n darostwng pobloedd#144:2 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, fy mhobl. odanaf.
3O ARGLWYDD, beth yw meidrolyn, i ti ofalu amdano,
a'r teulu dynol, i ti ei ystyried?
4Y mae'r meidrol yn union fel anadl,
a'i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.
5 ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,
cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;
6saetha allan fellt nes eu gwasgaru,
anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.
7Estyn allan dy law o'r uchelder,
i'm hachub ac i'm gwaredu
o ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid
8sy'n dweud celwydd â'u genau,
a'u deheulaw'n llawn ffalster.
9Canaf gân newydd i ti, O Dduw,
canaf gyda'r offeryn dectant i ti,
10ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,
ac yn achub Dafydd ei was.
11Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon#144:11 Hebraeg, oddi wrth… creulon yn yr adn. flaenorol.;
gwared fi o law estroniaid,
sy'n dweud celwydd â'u genau,
a'u deheulaw'n llawn ffalster.
12Bydded ein meibion fel planhigion
yn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,
a'n merched fel pileri cerfiedig
mewn adeiladwaith palas.
13Bydded ein hysguboriau yn llawn
o luniaeth o bob math;
bydded ein defaid yn filoedd
ac yn fyrddiynau yn ein meysydd;
14bydded ein gwartheg yn drymion,
heb anap nac erthyliad;
ac na fydded gwaedd ar ein strydoedd.
15Gwyn eu byd y bobl sydd fel hyn.
Gwyn eu byd y bobl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddynt.

Dewis Presennol:

Y Salmau 144: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda