Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 143

143
Salm. I Ddafydd.
1 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,
gwrando ar fy neisyfiad.
Ateb fi yn dy ffyddlondeb—
yn dy gyfiawnder.
2Paid â mynd i farn â'th was,
oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.
3Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,
ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;
gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,
fel rhai wedi hen farw.
4Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,
a'm calon wedi ei dal gan arswyd.
5Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,
yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,
ac yn meddwl am waith dy ddwylo.
6Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,
ac yn sychedu amdanat fel tir sych.
Sela
7Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD,
y mae fy ysbryd yn pallu;
paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,
neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
8Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad,
oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti;
gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded,
oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.
9O ARGLWYDD, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion,
oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.
10Dysg imi wneud dy ewyllys,
oherwydd ti yw fy Nuw;
bydded i'th ysbryd daionus fy arwain
ar hyd tir gwastad.
11Er mwyn dy enw, O ARGLWYDD, cadw fy einioes;
yn dy gyfiawnder dwg fi o'm cyfyngder,
12ac yn dy gariad difetha fy ngelynion;
dinistria'r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,
oherwydd dy was wyf fi.

Dewis Presennol:

Y Salmau 143: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda