Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:
Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?
Beth yw hyn, mab fy addunedau?
Paid â threulio dy nerth gyda merched,
na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,
nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,
ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,
rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,
a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.
Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,
a gwin i'r chwerw ei ysbryd;
cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,
a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.
Dadlau o blaid y mud,
a thros achos yr holl rai diobaith.
Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;
cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?
Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,
ac ni fydd pall ar ei henillion.
Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,
a hynny ar hyd ei hoes.
Y mae'n ceisio gwlân a llin,
ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.
Y mae, fel llongau masnachwr,
yn dwyn ei hymborth o bell.
Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,
yn darparu bwyd i'w thylwyth,
ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,
ac yn plannu gwinllan â'i henillion.
Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,
ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,
ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,
a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.
Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,
a'i dwylo i'r tlawd.
Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,
oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,
ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,
pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,
ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,
ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
Y mae'n siarad yn ddoeth,
a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,
ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;
a bydd ei gŵr yn ei chanmol:
“Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,
ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,
ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,
a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.