Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 31

31
Cyngor i Frenin
1Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:
2Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?
Beth yw hyn, mab fy addunedau?
3Paid â threulio dy nerth gyda merched,
na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,
nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,
ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,
5rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,
a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.
6Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,
a gwin i'r chwerw ei ysbryd;
7cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,
a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.
8Dadlau o blaid y mud,
a thros achos yr holl rai diobaith.
9Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;
cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
Y Wraig Fedrus
10Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?
Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,
ac ni fydd pall ar ei henillion.
12Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,
a hynny ar hyd ei hoes.
13Y mae'n ceisio gwlân a llin,
ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.
14Y mae, fel llongau masnachwr,
yn dwyn ei hymborth o bell.
15Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,
yn darparu bwyd i'w thylwyth,
ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
16Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,
ac yn plannu gwinllan â'i henillion.
17Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,
ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
18Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,
ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
19Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,
a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.
20Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,
a'i dwylo i'r tlawd.
21Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,
oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
22Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,
ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
23Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,
pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
24Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,
ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
25Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,
ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
26Y mae'n siarad yn ddoeth,
a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
27Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,
ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
28Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;
a bydd ei gŵr yn ei chanmol:
29“Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,
ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
30Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,
ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
31Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,
a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.

Dewis Presennol:

Diarhebion 31: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd