Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 31:1-31

Diarhebion 31:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam: O fy mab! O blentyn annwyl fy nghroth, y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw. Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched, a rhoi dy holl egni i’r rhai sy’n dinistrio brenhinoedd. O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin, ac arweinwyr ddim ysu am gwrw, rhag iddyn nhw yfed ac anghofio’r deddfau, a sathru ar hawliau’r tlodion. Rhowch ddiod feddwol i’r rhai sy’n marw a gwin i’r un sy’n diodde’n chwerw. Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio’u tlodi, a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio’u trafferthion. Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth. Coda dy lais o’u plaid nhw, barna’n gyfiawn, a dadlau dros hawliau’r rhai mewn angen a’r tlawd. Pwy sy’n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi’n llwyr, ac ar ei ennill bob amser. Mae hi’n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg. Mae hi’n edrych am wlân a defnydd arall ac yn mwynhau gweu a gwnïo. Mae hi fel fflyd o longau masnach yn cario bwyd o wledydd pell. Mae hi’n codi yn yr oriau mân i baratoi bwyd i’w theulu, a rhoi gwaith i’w morynion. Mae hi’n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio’i harian i blannu gwinllan ynddo. Mae hi’n bwrw iddi’n frwd, ac yn gweithio’n galed. Mae hi’n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy’r nos. Mae hi’n brysur yn nyddu â’i dwylo, a’i bysedd yn trin y gwlân. Mae hi’n rhoi yn hael i’r tlodion, ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen. Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw. Mae hi’n gwneud cwiltiau i’r gwely, a dillad o liain main drud. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda’r arweinwyr i gyd. Mae hi’n gwneud defnydd i’w werthu, a dillad i’r masnachwyr eu prynu. Mae hi’n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus. Mae hi’n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill. Mae hi’n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i’r cymylau, “Mae yna lawer o ferched da i’w cael, ond rwyt ti’n well na nhw i gyd.” Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy’n parchu’r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol. Rhowch glod iddi am beth mae wedi’i gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.

Diarhebion 31:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo: Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth? Beth yw hyn, mab fy addunedau? Paid â threulio dy nerth gyda merched, na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd. Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel, nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin, ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn, rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd, a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd. Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod, a gwin i'r chwerw ei ysbryd; cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi, a pheidio â chofio'u gofid byth mwy. Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd. Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes. Y mae'n ceisio gwlân a llin, ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo. Y mae, fel llongau masnachwr, yn dwyn ei hymborth o bell. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio, yn darparu bwyd i'w thylwyth, ac yn trefnu gorchwylion ei morynion. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes, ac yn plannu gwinllan â'i henillion. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth, ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol, ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail, a'i dwylo'n gafael yn y werthyd. Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus, a'i dwylo i'r tlawd. Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira, oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd. Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun, ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor. Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth, pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal. Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu, ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr. Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin. Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gŵr yn ei chanmol: “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.” Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol. Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.

Diarhebion 31:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau? Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd. Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig. Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gaiff glod. Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.