Diarhebion 12
12
1Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth,
ond hurtyn sy'n casáu cerydd.
2Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD,
ond condemnir y dichellgar.
3Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni,
ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.
4Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,
ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
5Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,
ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.
6Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,
ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.
7Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,
ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
8Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,
ond gwawdir y meddwl troëdig.
9Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,
na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.
10Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,
ond y mae'r drygionus yn ddidostur.
11Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.
12Blysia'r drygionus am ysbail drygioni,
ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.#12:12 Hebraeg yn ansicr.
13Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,
ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.
14Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,
a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
15Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,
ond gwrendy'r doeth ar gyngor.
16Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,
ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.
17Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,
ond celwydd a draetha'r gau dyst.
18Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,
ond y mae tafod y doeth yn iacháu.
19Erys geiriau gwir am byth,
ond ymadrodd celwyddog am eiliad.
20Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,
ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.
21Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,
ond bydd y drygionus yn llawn helbul.
22Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.
23Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,
ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.
24Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,
ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.
25Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,
ond llawenheir ef gan air caredig.
26Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg#12:26 Neu, oddi wrth ei gymydog.,
ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.
27Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa,
ond gan y diwyd bydd golud mawr.
28Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd,
ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.
Dewis Presennol:
Diarhebion 12: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004