Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 13

13
1Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad,
ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.
2Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un â daioni,
ond awchu am drais y mae twyllwyr.
3Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd,
ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.
4Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,
ond y mae'r diwyd yn ffynnu.
5Y mae'r cyfiawn yn casáu twyll,
ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.
6Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,
ond drygioni yn dymchwel y pechadur.
7Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;
ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
8Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,
ond ni chlyw'r tlawd fygythion.
9Disgleiria goleuni'r cyfiawn,
ond diffydd lamp y drygionus.
10Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,
ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
11Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,
ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,
ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,
ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol
i arbed rhag maglau marwolaeth.
15Y mae deall da yn ennill ffafr,
ond garw yw ffordd y twyllwyr.
16Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,
ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.
17Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,
ond cennad cywir yn dwyn lles.
18Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth,
ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.
19Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas,
ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.
20Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb,
ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
21Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,
ond daioni yw gwobr y cyfiawn.
22Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,
ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.
23Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,
ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.
24Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen,
ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
25Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon,
ond gwag fydd bol y drygionus.

Dewis Presennol:

Diarhebion 13: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd