Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd. Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb. Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr. Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau. Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni. Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn, ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr. Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith, a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth. Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd, ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo. Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau, ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall. Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn, a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus. Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus. Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog, ond cadw'n dawel a wna'r deallus. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae'r teyrngar yn ei chadw. Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr. Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn, ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.
Darllen Diarhebion 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 11:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos