Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam. Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth. Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu, ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg. Y mae llaw segur yn dwyn tlodi, ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth. Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus, ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd. Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith, ond y mae enw'r drwg yn diflannu. Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn, ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha. Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel, ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd. Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul, ond cerydd agored yn peri heddwch. Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. Y mae casineb yn achosi cynnen, ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd. Ar wefusau'r deallus ceir doethineb, ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr. Y mae'r doeth yn trysori deall, ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ond dinistr y tlawd yw ei dlodi. Cyflog y cyfiawn yw bywyd, ond cynnyrch y drwg yw pechod.
Darllen Diarhebion 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 10:1-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos