Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 32

32
Y Llwythau tu hwnt i'r Iorddonen
Deut. 3:12–22
1Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid, 2daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud, 3“Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon, 4sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg.” 5Yna dywedasant, “Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen.”
6Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma? 7Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt? 8Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad, 9oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt. 10Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud, 11‘Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, 12ar wahân i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.’ 13Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 14A dyma chwi'n awr yn dilyn eich hynafiaid, yn hil o bobl bechadurus sy'n cyffroi'n fwyfwy ddicter yr ARGLWYDD yn erbyn Israel. 15Os gwrthodwch ei ddilyn, bydd yn gadael yr holl bobl hyn unwaith eto yn yr anialwch, a chwi fydd wedi eu difa.”
16Yna daethant ato a dweud, “Fe adeiladwn gorlannau yma i'n praidd, a dinasoedd i'n plant; 17caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain. 18Ni ddychwelwn adref nes i bob un o'r Israeliaid feddiannu ei etifeddiaeth. 19Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen.” 20Dywedodd Moses wrthynt, “Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD, 21ac os â pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan, 22a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD. 23Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal. 24Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch.” 25Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, “Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn. 26Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead, 27ond fe â dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.”
28Rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel. 29Dywedodd Moses wrthynt, “Os â tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth; 30ond os nad ânt drosodd yn arfog gyda chwi, yna cânt etifeddiaeth yn eich plith chwi yng ngwlad Canaan.” 31Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, “Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision. 32Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch. 34Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer, 35Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha, 36Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd. 37Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim, 38Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt. 39Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno. 40Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno. 41Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair#32:41 H.y., Pentrefi Jair.. 42Aeth Noba i gymryd meddiant o Cenath a'i phentrefi, a'i galw'n Noba, ar ôl ei enw ei hun.

Dewis Presennol:

Numeri 32: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda