Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 31

31
Dial ar Midian
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Yr wyt i ddial ar y Midianiaid ar ran pobl Israel; yna fe'th gesglir at dy bobl.” 3A dywedodd Moses wrth y bobl, “Arfogwch ddynion o'ch plith iddynt ryfela yn erbyn Midian, a dial arni ar ran yr ARGLWYDD. 4Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel.” 5Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel. 6Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd. 7Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 8Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor â'r cleddyf. 9Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd. 10Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd, 11a chymerwyd y cyfan o'r ysbail a'r anrhaith, yn ddyn ac anifail. 12Yna daethant â'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.
13Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll. 14Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar ôl brwydro yn y rhyfel, 15a dywedodd wrthynt, “A ydych wedi arbed yr holl ferched? 16Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglŷn â Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD. 17Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn, 18ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn. 19Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd â chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi. 20Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren.”
21Dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr oedd wedi mynd i'r frwydr, “Dyma'r rheol yn ôl y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses: 22dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm, 23sef popeth sy'n gallu gwrthsefyll tân, sydd i'w dynnu trwy dân er mwyn ei buro, a'i lanhau â dŵr puredigaeth; y mae popeth na all wrthsefyll tân i'w dynnu trwy'r dŵr yn unig. 24Golchwch eich dillad ar y seithfed dydd, a byddwch lân; yna cewch ddod i mewn i'r gwersyll.”
Rhannu'r Ysbail
25Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 26“Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail, 27a'i rannu'n ddau rhwng y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr a'r holl gynulliad. 28Oddi wrth y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr, cymer yn dreth i'r ARGLWYDD un o bob pum cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, neu ddefaid. 29Cymerwch hyn o'u hanner hwy, a'i roi i Eleasar yr offeiriad fel offrwm i'r ARGLWYDD. 30Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD.” 31Gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
32Dyma'r ysbail oedd yn weddill o'r hyn a gymerodd y rhyfelwyr: chwe chant saith deg pump o filoedd o ddefaid, 33saith deg dwy o filoedd o eidionau, 34chwe deg un o filoedd o asynnod, 35a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. 36Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid, 37ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD; 38yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD; 39yr oedd tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, a chwe deg ac un ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD; 40yr oedd un fil ar bymtheg o bobl, a thri deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD. 41Rhoddodd Moses y dreth, sef yr offrwm i'r ARGLWYDD, i Eleasar yr offeiriad, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
42Yr oedd y rhan nad oedd yn eiddo i'r rhyfelwyr (sef yr hanner a rannodd Moses i'r Israeliaid, 43yn eiddo i'r cynulliad), yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid, 44tri deg chwech o filoedd o eidionau, 45tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, 46ac un fil ar bymtheg o bobl. 47O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
48Yna daeth y rhai oedd yn swyddogion dros filoedd y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, at Moses 49a dweud wrtho, “Y mae dy weision wedi cyfrif y rhyfelwyr a roddaist dan ein hawdurdod, a chael nad ydym wedi colli'r un ohonynt. 50Cyflwynodd pob un ohonom yr hyn a gafodd, addurniadau aur, cadwynau, breichledau, modrwyau, clustlysau, a thorchau, yn offrwm i'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud cymod drosom ein hunain gerbron yr ARGLWYDD.” 51Yna cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur a'r holl addurniadau cywrain oddi wrthynt. 52Yr oedd yr holl aur a offrymwyd i'r ARGLWYDD gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd yn pwyso un deg chwech o filoedd saith gant a phum deg o siclau, 53gan fod pob un o'r rhyfelwyr wedi cymryd rhywfaint o'r ysbail. 54Cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrth gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a daethant ag ef i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Numeri 31: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda