Lefiticus 1
1
Y Poethoffrwm
1Galwodd yr ARGLWYDD ar Moses a llefaru wrtho o babell y cyfarfod a dweud: 2“Llefara wrth bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Pan fydd unrhyw un ohonoch yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dewch ag anifail o'r gyr neu o'r praidd yn offrwm.
3“ ‘Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod â gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD. 4Rhodded ei law ar ben y poethoffrwm, a bydd yn dderbyniol ganddo i wneud iawn drosto. 5Y mae i ladd y bustach ifanc o flaen yr ARGLWYDD, ac yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn dod â'r gwaed ac yn ei luchio ar bob ochr i'r allor sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6Y mae i flingo'r poethoffrwm a'i dorri'n ddarnau. 7Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod tân ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y tân. 8Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor. 9Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10“ ‘Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod â gwryw di-nam. 11Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor. 12Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor. 13Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn dod â'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
14“ ‘Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod â thurtur neu gyw colomen. 15Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor, 16yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw; 17bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
Dewis Presennol:
Lefiticus 1: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004