Exodus 40
40
Agor a Chysegru'r Tabernacl
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf. 3Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen. 4Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau. 5Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl. 6Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod, 7a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi. 8Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd. 9Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig. 10Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn. 11Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi. 12Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr, 13a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad. 14Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau; 15eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”
16Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; 17ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl. 18Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau. 19Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 20Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni. 21Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 22Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd, 23a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 24Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl, 25a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 26Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd, 27ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 28Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl, 29a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 30Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr, 31er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed. 32Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 33Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod
Num. 9:15–23
34Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. 35Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. 36Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith; 37ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent. 38Ar hyd y daith yr oedd holl dŷ Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thân uwch ei ben yn ystod y nos.
Dewis Presennol:
Exodus 40: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004