Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 6

6
1Atebodd Job:
2“O na ellid pwyso fy nhrallod,
a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!
3Yna byddai'n drymach na thywod y môr;
am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.
4Y mae saethau'r Hollalluog#6:4 Hebraeg, Shadai. ynof;
yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;
dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
5A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?
A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?
6A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?
A oes blas ar sudd y malws?#6:6 Hebraeg yn ansicr.
7Y mae fy stumog yn eu gwrthod;
y maent fel pydredd fy nghnawd.
8“O na ddôi fy nymuniad i ben,
ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!
9O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,
ac estyn ei law i'm torri i lawr!
10Byddai o hyd yn gysur imi,
a llawenhawn yn yr ing diarbed
(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).
11Pa nerth sydd gennyf i obeithio,
a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?
12Ai nerth cerrig yw fy nerth?
Ai pres yw fy nghnawd?
13Wele, nid oes imi gymorth ynof,
a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.
14Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,
er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.
15Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;
fel nentydd sy'n gorlifo,
16yn dywyll gan rew,
ac eira yn cuddio ynddynt.
17Ond pan ddaw poethder fe beidiant,
ac yn y gwres diflannant o'u lle.
18Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,
crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.
19Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,
a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.
20Cywilyddir hwy yn eu hyder;
dônt atynt, ac fe'u siomir.
21Felly yr ydych chwithau i mi#6:21 Felly Groeg a Fersiynau eraill. Hebraeg, ddim.;
gwelwch drychineb, a dychrynwch.
22A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,
ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;
23achubwch fi o afael y gelyn,
a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?
24“Hyfforddwch fi, a thawaf;
a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.
25Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!
Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?
26A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,
gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?
27A fwriech goelbren am yr amddifad,
a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?
28Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;
ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?
29Trowch; na foed anghyfiawnder.
Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.
30A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?
Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”

Dewis Presennol:

Job 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda