Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 5

5
1“Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb?
At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?
2Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,
a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.
3Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,
ond ar fyrder melltithiwyd#5:3 Neu, melltithiais. ei drigfan;
4ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,
wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.
5Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,
ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;
ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.
6Canys nid o'r pridd y daw gofid,
nac o'r ddaear orthrymder;
7ond genir dynion i orthrymder,
cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.
8“Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,
a gosod fy achos o'i flaen ef,
9yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,
rhyfeddodau dirifedi.
10Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,
a'r dyfroedd ar y meysydd.
11Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,
a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.
12Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;
ni all eu dwylo wneud dim o fudd.
13Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,
a buan y diflanna cynllun y dichellgar.
14Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,
ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.
15Ond gwared ef yr anghenus#5:15 Neu, gwared ef rhag y cleddyf. o'u gafael,
a'r truan o afael y cryf.
16Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,
ac anghyfiawnder yn cau ei safn.
17“Dedwydd y sawl a gerydda Duw,
ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.
18Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;
ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.
19Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;
ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.
20Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,
a rhag y cleddyf mewn brwydr.
21Cei loches rhag ffrewyll y tafod,
ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.
22Chwerddi ar ddinistr a newyn,
ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.
23Byddi mewn cynghrair â cherrig y tir,
a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch â thi.
24Yna gweli fod dy babell yn ddiogel,
a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.
25Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth,
a'th epil fel gwellt y maes.
26Ei i'r bedd mewn henaint teg,
fel y cesglir ysgub yn ei phryd.
27Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir;
gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun.”

Dewis Presennol:

Job 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda