Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 4

4
Y Cylch Areithio Cyntaf
4:1—14:22
1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2“Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?
Eto pwy a all atal geiriau?
3Wele, buost yn cynghori llawer
ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
4cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,
a chadarnhau'r gliniau gwan.
5Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;
cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.
6Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,
ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
7Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,
a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?
8Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul
ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.
9Difethir hwy gan anadl Duw,
a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.
10Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf;
pydra dannedd y llewod ifanc.
11Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth,
a gwneir yn amddifad genawon y llewes.
12‘Daeth gair ataf fi yn ddirgel;
daliodd fy nghlust sibrwd ohono
13yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos,
pan ddaw trymgwsg ar bawb.’
14Daeth dychryn a chryndod arnaf,
a chynhyrfu fy holl esgyrn.
15Llithrodd awel heibio i'm hwyneb,
a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd;
yr oedd ffurf o flaen fy llygaid;
bu distawrwydd, yna clywais lais:
17‘A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw,
ac yn burach na'i Wneuthurwr?
18Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision,
ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,
19beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai,
a'u sylfeini mewn pridd,
y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr,
llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.
21Pan ddatodir llinyn eu pabell,
oni fyddant farw heb ddoethineb?’ ”

Dewis Presennol:

Job 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda