Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 7

7
1“Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear,
a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?
2Fel caethwas yn dyheu am gysgod,
a gwas yn disgwyl am ei dâl,
3felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau,
a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.
4Pan orweddaf, dywedaf, ‘Pa bryd y caf godi?’
Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.
5Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi;
crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.
6Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;
darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.
7“Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;
ni wêl fy llygaid ddaioni eto.
8Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;
ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.
9Fel y cili'r cwmwl a diflannu,
felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;
10ni ddaw eto i'w gartref,
ac nid edwyn ei le mohono mwy.
11“Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;
llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,
cwynaf yn chwerwder fy enaid.
12Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig,
gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?
13“Pan ddywedaf, ‘Fy ngwely a rydd gysur imi;
fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn’,
14yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion,
ac yn f'arswydo â gweledigaethau.
15Gwell fyddai gennyf fy nhagu,
a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.
16Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith.
Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.
17Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried,
ac iti roi cymaint o sylw iddo?
18Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore,
ac yn ei brofi bob eiliad.
19Pa bryd y peidi ag edrych arnaf,
ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?
20Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw?
Pam y cymeraist fi'n nod,
nes fy mod yn faich i mi fy hun?
21Pam na faddeui fy nhrosedd
a symud fy mai?
Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch,
ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael.”

Dewis Presennol:

Job 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda