Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 42

42
Job yn Ateb yr ARGLWYDD
1Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD:
2“Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth,
ac nad oes dim yn amhosibl i ti.
3Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’
Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall,
pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.
4Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru;
fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.
5Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat,
ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun.
6Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan,
ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
Diweddglo
7Ar ôl i'r ARGLWYDD lefaru'r geiriau hyn wrth Job, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eliffas y Temaniad, “Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a'th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy'n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job. 8Yn awr cymerwch saith ych a saith hwrdd, ac ewch at fy ngwas Job, i offrymu poethoffrwm drosoch eich hunain. Fe weddïa fy ngwas Job drosoch; gwrandawaf finnau arno, ac ni ddialaf arnoch am eich ffolineb, am ichwi beidio â llefaru yn iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job.” 9Yna aeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad a Soffar y Naamathiad, a gwneud fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; a gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Job.
10Wedi i Job weddïo dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen. 11Yna aeth ei frodyr a'i chwiorydd i gyd, a'r holl gyfeillion oedd ganddo gynt, i fwyta gydag ef yn ei dŷ, ac i'w gysuro a'i ddiddanu am y drwg a ddygodd yr ARGLWYDD arno. A rhoddodd pob un ohonynt ddarn arian a modrwy aur iddo. 12Bendithiodd yr ARGLWYDD ddiwedd oes Job yn fwy na'i dechrau: yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o fustych a mil o asennod. 13Hefyd yr oedd ganddo saith mab a thair merch. 14Enwodd yr hynaf ohonynt yn Jemima, yr ail yn Cesia, a'r drydedd yn Cerenhapuch. 15Nid oedd merched prydferthach na merched Job drwy'r holl wlad, a rhoes Job etifeddiaeth iddynt hwy yn ogystal ag i'w brodyr. 16Bu Job fyw gant a deugain o flynyddoedd ar ôl hyn, a chafodd weld ei blant a phlant ei blant hyd at bedair cenhedlaeth. 17Bu farw Job yn hen iawn, mewn gwth o oedran.

Dewis Presennol:

Job 42: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda