Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 41

41
1 # 41:1 Hebraeg, 40:25. “A fedri di dynnu Lefiathan
allan â bach,
neu ddolennu rhaff am ei dafod?
2A fedri di roi cortyn am ei drwyn,
neu wthio bach i'w ên?
3A wna ef ymbil yn daer arnat,
neu siarad yn addfwyn â thi?
4A wna gytundeb â thi,
i'w gymryd yn was iti am byth?
5A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn,
neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?
6A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,
i'w rannu rhwng y gwerthwyr?
7A osodi di bigau haearn yn ei groen,
a bachau pysgota yn ei geg?
8Os gosodi dy law arno,
fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.
9 # 41:9 Hebraeg, 41:1. Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;
onid yw ei olwg yn peri arswyd?
10Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;
a phwy a all sefyll o'i flaen?
11Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddo
o'r cyfan sydd gennyf dan y nef?
12Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,
ei gryfder a'i ffurf gytbwys.
13Pwy a all agor ei wisg uchaf,
neu drywanu ei groen dauddyblyg?
14Pwy a all agor dorau ei geg,
a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?
15Y mae ei gefn#41:15 Felly Fersiynau. Hebraeg, ei falchder. fel rhesi o darianau
wedi eu cau'n dynn â sêl.
16Y maent yn glòs wrth ei gilydd,
heb fwlch o gwbl rhyngddynt.
17Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,
fel na ellir eu gwahanu.
18Y mae ei disian yn gwasgaru mellt,
a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.
19Daw fflachiadau allan o'i geg,
a thasga gwreichion ohoni.
20Daw mwg o'i ffroenau,
fel o grochan yn berwi ar danllwyth.
21Y mae ei anadl yn tanio cynnud,
a daw fflam allan o'i geg.
22Y mae cryfder yn ei wddf,
ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.
23Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,
ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.
24Y mae ei galon yn gadarn fel craig,
mor gadarn â maen melin.
25Pan symuda, fe ofna'r cryfion;
ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.
26Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,
nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.
27Y mae'n trafod haearn fel gwellt,
a phres fel pren wedi pydru.
28Ni all saeth wneud iddo ffoi,
ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.
29Fel sofl yr ystyria'r pastwn,
ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.
30Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,
a gwna rychau fel og ar y llaid.
31Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan;
gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.
32Gedy lwybr gwyn ar ei ôl,
a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.
33Nid oes tebyg iddo ar y ddaear,
creadur heb ofn dim arno.
34Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel;
ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch.”

Dewis Presennol:

Job 41: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda