Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 40

40
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:
2“A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig?
Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny.”
3Yna atebodd Job:
4“Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud?
Rhof fy llaw ar fy ngheg.
5Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto;
do ddwywaith, ac ni chwanegaf.”
6Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
7“Gwna dy hun yn barod i'r ornest;
fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
8A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn,
ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?
9A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?
A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?
10“Addurna dy hun â balchder ac urddas,
a gwisga ogoniant a harddwch.
11Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig;
edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.
12Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio;
sathra'r rhai drygionus yn eu lle.
13Cuddia hwy i gyd yn y llwch;
cuddia'u hwynebau o'r golwg.
14Yna fe'th ganmolaf
am fod dy law dde'n dy waredu.
15“Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg â thi;
y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.
16Y mae ei nerth yn ei lwynau,
a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.
17Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden,
a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.
18Y mae ei esgyrn fel pibellau pres,
a'i goesau fel barrau haearn.
19“Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw;
gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.#40:19 Tebygol. Hebraeg yn ansicr.
20Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo;
yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.
21Fe orwedd dan y lotus,
a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.
22Y mae'r lotus yn gysgod drosto,
a helyg yn y nant yn ei guddio.
23Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa;
byddai'n ddi-fraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.
24A ellir ei fachu yn ei lygaid,
a gwthio tryfer i'w drwyn?”

Dewis Presennol:

Job 40: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda