Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 39

39
1“A wyddost ti amser llydnu y
geifr gwylltion?
A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,
2yn cyfrif y misoedd a gyflawnant
ac yn gwybod amser eu llydnu?
3Y maent yn crymu i eni eu llydnod,
ac yn bwrw eu brych.
4Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes,
yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.
5“Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,
ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym
6y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,
a thir diffaith yn lle iddo fyw?
7Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;
y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.
8Crwydra'r mynyddoedd am borfa,
a chwilia am bob blewyn glas.
9“A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,
a threulio'r nos wrth dy breseb?
10A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,
neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?
11A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?
A adewi dy lafur iddo?
12A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,
a'i gasglu i'th lawr dyrnu?
13“Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys,
ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;
14y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear,
i ddeor yn y pridd,
15gan anghofio y gellir eu sathru dan draed,
neu y gall anifail gwyllt eu mathru.
16Y mae'n esgeulus o'i chywion,
ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi,
heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.
17Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb,
ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.
18Ond pan gyfyd a rhedeg,
gall chwerthin am ben march a'i farchog.
19“Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,
ac yn gwisgo'i war â mwng?
20Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,
a gweryru nes creu dychryn?
21Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth
pan â allan i wynebu'r frwydr.
22Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;
ni thry'n ôl rhag y cleddyf.
23O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau,
fflach y cleddyf a'r waywffon.
24Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;
ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.
25Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’
Fe synhwyra frwydr o bell,
trwst y capteiniaid a'u bloedd.
26“Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan
a lledu ei adenydd tua'r De?
27Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan
a gosod ei nyth yn uchel?
28Fe drig ar y graig, ac aros yno
yng nghilfach y graig a'i diogelwch.
29Oddi yno y chwilia am fwyd,
gan edrych i'r pellter.
30Y mae ei gywion yn llowcio gwaed;
a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno.”

Dewis Presennol:

Job 39: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda