Dywedodd Elihu:
“Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;
clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.
Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,
fel y profir bwyd gan daflod y genau.
Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,
a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.
Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,
ond trodd Duw farn oddi wrthyf.
Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog;
y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’
Pwy sydd fel Job,
yn drachtio dirmyg fel dŵr,
yn cadw cwmni â rhai ofer,
ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?
Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i neb
ymhyfrydu yn Nuw.’
“Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.
Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,
ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,
a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,
ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,
a rhoi'r byd cyfan iddo?
Pe byddai ef yn rhoi ei fryd
ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,
yna byddai pob cnawd yn marw,
a phawb yn dychwelyd i'r pridd.
“Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn,
a rho sylw i'm geiriau.
A all un sy'n casáu barn lywodraethu?
A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,
ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;
nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,
nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,
oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;
trenga'r cyfoethog, a diflannu;
symudir ymaith y cryf heb ymdrech.
“Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,
a gwêl ei holl gamau.
Nid oes tywyllwch na chaddug
lle y gall drwgweithredwyr guddio.
Nid oes amser wedi ei drefnu
i neb ddod i farn o flaen Duw;
y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi,
ac yn gosod eraill yn eu lle.
Y mae'n adnabod eu gweithredoedd,
ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.
Y mae'n eu taro o achos eu drygioni,
a hynny yng ngŵydd pawb,
am eu bod yn troi oddi wrtho,
ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.
Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,
ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.
Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;
y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—
boed genedl neu unigolyn—
rhag i neb annuwiol lywodraethu,
a maglu pobl.
“Os dywed un wrth Dduw,
‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;
am na allaf fi weld, hyffordda di fi;
os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—
a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio
y bydd ef yn fodlon ar hynny?
Ti sydd i ddewis, nid fi;
traetha yr hyn a wyddost.
Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,
a rhai doeth yn gwrando arnaf.
Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,
ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.
O na phrofid Job i'r eithaf,
gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!
Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod,
yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith,
ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”