Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 30

30
1“Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen,
ie, rhai sy'n iau na mi,
rhai na buaswn yn ystyried eu tadau
i'w gosod gyda'm cŵn defaid.
2Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi,
gan fod eu hegni wedi diflannu?
3Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd,
yn crafu yn y tir sych a diffaith.
4Casglant yr hocys a dail y prysglwyn
a gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.
5Erlidir hwy o blith pobl,
a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.
6Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,
ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.
7Y maent yn nadu o ganol y perthi;
closiant at ei gilydd o dan y llwyni.
8Pobl ynfyd a dienw ydynt;
fe'u gyrrwyd allan o'r tir.
9“Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;
yr wyf yn destun gwawd iddynt.
10Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,
ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.
11Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,
taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.
12Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;
gorfodant fi i gerdded ymlaen,
ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
13Maluriant fy llwybrau,
ychwanegant at f'anffawd,
ac nid oes neb yn eu rhwystro#30:13 Tebygol. Hebraeg, cynorthwyo..
14Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;
rhuthrant trwy ganol y dinistr.
15Daeth dychryniadau arnaf;
gwasgerir fy urddas fel gan wynt;
diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.
16“Yn awr llewygodd fy ysbryd,
cydiodd dyddiau cystudd ynof.
17Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,
ac ni lonydda fy nghnofeydd.
18Cydiant yn nerthol yn fy nillad,
a gafael ynof wrth goler fy mantell.
19Taflwyd fi i'r llaid,
ac ystyrir fi fel llwch a lludw.
20Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb;
safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.
21Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf,
ac yr wyt yn ymosod arnaf â'th holl nerth.
22Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt,
a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.
23Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi,
i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.
24“Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei law
ac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?
25Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno,
a gofidio dros y tlawd?
26Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;
pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.
27Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,
daeth dyddiau gofid arnaf.
28Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;
codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.
29Yr wyf yn frawd i'r siacal,
ac yn gyfaill i'r estrys.
30Duodd fy nghroen,
a llosgodd f'esgyrn gan wres.
31Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf,
a'm ffliwt i seinio galar.”

Dewis Presennol:

Job 30: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda